Mae Carwyn Jones wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi £1m ychwanegol i ddatblygu canolfannau newydd ac arloesol, gan gynnwys lleoedd dysgu, i hybu’r defnydd o’r Gymraeg.

Mae’r arian, a gafodd ei gyhoeddi heddiw ar gyfer 2015-16, yn ychwanegol at yr £1.25m ar gyfer 2014-15 a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr haf.

Bydd yr arian cyfalaf newydd yn helpu awdurdodau lleol, colegau a phrifysgolion i ddatblygu canolfannau iaith ddeinamig sy’n cynnig cyfle i bobl ddysgu neu ymarfer y Gymraeg, gan greu canolbwynt ar gyfer yr Iaith, meddai Llywodraeth Cymru.

‘Ymateb positif’

Dywedodd Carwyn Jones: “Cafwyd ymateb positif iawn i’r arian a gyhoeddwyd yn yr Eisteddfod fis Awst, a daeth nifer mawr o geisiadau i law am yr arian hwnnw.

“Byddwn yn cyhoeddi ceisiadau llwyddiannus eleni maes o law, ond gan fod cynifer ohonynt, mae’n bleser gen i gyhoeddi’r £1m ychwanegol heddiw.

“Dw i bob amser wedi dweud mai’r allwedd i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yw sicrhau bod pobl yn cael y cyfle i’w defnyddio’n gymdeithasol ar lawr gwlad, yn y gymuned.

“Bydd y cynnydd sylweddol hwn yn yr arian cyfalaf yn gyfraniad pwysig at y gwaith o ddarparu’r adeiladau a’r canolfannau a fydd yn sicrhau bod pobl yn cael y cyfle hwnnw.

“Bydd hynny yn ein helpu i gadw at ein hymrwymiadau yn ‘Bwrw Ymlaen’, sef ein gweledigaeth ar gyfer hybu’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru.”