Tyrbin gwynt
Mae cynghorwyr yng Ngwynedd wedi gwrthod cais i adeiladu tyrbin gwynt 3 llafn ar dir ger Moelfre Bach, Llanaelhaearn.

Yn dilyn pryderon gan drigolion y pentref ym Mhen Llŷn am yr effaith byddai’r tyrbin 200 troedfedd yn ei gael ar y tirlun, fe benderfynodd aelodau’r Pwyllgor Cynllunio wrthod y cais heddiw.

Dr Carl Clowes ar ran y cwmni cydweithredol Antur Aelhaearn oedd wedi cyflwyno’r cais ac roedd yn honni y byddai’r cynllun yn adfywio’r gymuned – gan gynhyrchu elw o tua £150,000 y flwyddyn am ugain mlynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Dim ond i gadarnhau fod Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd wedi gwrthod y cais am dyrbin gwynt 3 llafn ar dir ger Moelfre Bach, Llanaelhaearn yn unol â’r argymhelliad a gyflwynwyd i’r pwyllgor heddiw.”