Roger Williams, 50 oed, oedd y dyn a gafodd ei lofruddio yn Noc Penfro fore heddiw.

Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu Dyfed Powys fod y corff wedi’i ganfod yng Nghwrt Pater yn y dre’, a bod dau ddyn ac un ddynes wedi’u harestio ar amheuaeth o’i lofruddio.

Fe fydd prawf post mortem yn cael ei gynnal ar y corff yn ystod y dydd heddiw.

Yn y cyfamser, mae’r heddlu’n apelio am unrhyw wybodaeth a allai fod o help i ddatrys yr achos. Maen nhw’n gofyn yn benodol i unrhyw un a welodd Roger Williams rhwng 12.30yp a 1.20yp ddoe (dydd Gwener), i’w ffonio ar y rhif 101.