Simon Thomas AC
Mae Plaid Cymru yn galw ar y gwrthbleidiau i gefnogi eu gwelliannau i’r Bil Addysg Uwch er mwyn codi safonau yn y sector.

Mae tîm Plaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi cyflwyno gwelliannau i’r Bil Addysg Uwch er mwyn gwneud y canlynol:

  • diogelu annibyniaeth prifysgolion;
  • atal mwy o ymwneud gan y sector preifat yng ngwaith prifysgolion;
  • amddiffyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Uwch.

Bydd y blaid yn ceisio cytundeb ar y gwelliannau er mwyn cryfhau cynigion Llywodraeth Cymru.

Yr wythnos nesaf (dydd Mercher, Tachwedd 5) bydd aelodau Cynulliad yn trafod gwelliannau i’r Bil Addysg Uwch (Cymru) yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Ffioedd

Dywedodd Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru ac AC y Canolbarth a’r Gorllewin, Simon Thomas:

“Prif ffynhonnell cyllid y prifysgolion bellach yw ffioedd dysgu myfyrwyr, sydd wedi eu sybsideiddio gan Lywodraeth Cymru. Mae’n rhaid i ni sicrhau felly y gall Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru reoleiddio sut y mae prifysgolion yn defnyddio’r arian cyhoeddus hwn.

“Mae cydbwysedd pwysig i’w daro rhwng diogelu annibyniaeth prifysgolion, rhyddid academaidd, a defnyddio arian cyhoeddus er lles cymdeithas. Yn ystod cyfnod cyntaf craffu ar y Bil, nodwyd y gallai’r Bil fel y’i cyflwynwyd arwain at or-reoleiddio’r sector.

“Un ffordd yr ydym yn ceisio diogelu annibyniaeth y prifysgolion yw trwy sicrhau bod a wnelo’r rheoleiddio â’r modd mae prifysgolion yn defnyddio arian cyhoeddus, ond nid a gweithgareddau prifysgolion nad ydynt yn cael eu cyllido o bwrs y wlad.

“Rydym hefyd am amddiffyn rhyddid academaidd y prifysgolion trwy sicrhau bod mwyafrif aelodau pwyllgor ymgynghorol CCAUC yn dod o gefndir academaidd.

“Rhaid i ni gynnal enw da prifysgolion Cymru a sicrhau bod safonau academaidd yn uchel.”

Pryder tros gyllido

“Mae pryder fod Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr ar hyn o bryd yn ystyried dileu’r trefniadau sicrhau ansawdd mae’n eu rhannu gyda gweddill y Deyrnas Gyfunol,” meddai Simon Thomas wedyn.

“Deng mlynedd yn ôl, fel AS Ceredigion yn Nhŷ’r Cyffredin, fe rybuddiais am osod grymoedd y farchnad yn rhydd ar ein system addysg uwch gan lywodraeth Lafur San Steffan bryd hynny trwy gyflwyno ffioedd dysgu.

“Gallai’r penderfyniad i osod allan fasnachfraint swyddogaethau’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd  arwain ar breifateiddio, gan adael ein systemau addysg yn agored i fwy o farchnadeiddio a pheryglu safonau.”