Bryn Parry Jones
Mae’r Archwilydd Penodedig, Anthony Barrett, yn dweud y byddai penderfyniad Cyngor Sir Benfro i dalu £330,000 i’w Prif Weithredwr adael ei swydd yn anghyfreithlon.

Mae wedi cyhoeddi rhybudd – Hysbysiad Ymgynghorol – yn rhwystro’r Cyngor rhag gwneud y taliad.

Roedd disgwyl i Bryn Parry Jones adael ei swydd gyda’r swm sylweddol o arian ddiwedd y mis wedi pleidlais o 29-23 gan gynghorwyr bron bythefnos yn ol.

Cwynion

Ond yn dilyn cwynion fod y penderfyniad i dalu’r swm sylweddol wedi ei wneud tu ôl i ddrysau caeedig, bu’r Archwilydd yn astudio’r sefyllfa.

Ddydd Mawrth fe wnaeth yr  Archwilydd gyflwyno Hysbysiad Ymgynghorol yn atal y Cyngor rhag talu’r arian tra bydd yr Hysbysiad mewn grym.

Dyma’r cam diweddara’ mewn helynt a gododd ddechrau’r flwyddyn, pan ddywedodd yr Archwilydd fod taliadau cyflog i Bryn Parry-Jones ac un uwch swyddog arall  hefyd yn anghyfreithlon.

Roedden nhw wedi derbyn cyflog di-dreth yn hytrach na thaliadau i gronfa bensiwn a’r dadlau am hynny a arweiniodd yn y diwedd at y cytundeb i’r Prif Weithredwr adael ei swydd.

Datganiad Anthony Barrett

Dyma y mae Anthony Barrett yn ei ddweud yn ei ddatganiad – ef ywr Archwilydd sydd wedi ei benodi gan Swyddfa Archwilio Cymru i gadw llygad ar y cyngor.

“Ar ôl ystyried yn ofalus, mae gen i reswm i gredu y bydd Cyngor Sir Penfro yn gwario arian yn anghyfreithlon os bydd yn parhau â’i gytundeb setlo cyfredol â’r Prif Weithredwr, Bryn Parry Jones.

“Am y rheswm hwn, rwy’n teimlo nad oes gen i unrhyw ddewis ond cyflawni fy nghyfrifoldebau statudol a chymryd y cam hwn.”

Mae hefyd wedi cyhoeddi’r rheswm tros ei benderfyniad – bod y taliad ffarwel yn cynnwys swm iawndal ar gyfer y taliadau anghyfreithlon cynharach.