Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth ar am ddamwain ffordd a laddodd ddau berson ddoe.


Fe gafodd yr heddlu wybod am wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A40 ger Crucywel, ym Mhowys, am 2 o’r gloch y prynhawn.

Dyma’r ail ddydd Sul yn olynol i ddamwain angheuol ddigwydd ar yr A40 yn yr ardal – fe gafodd un dyn ei ladd yr wythnos ddiwetha’ hefyd.

Dyn a dynes yn marw

Y tro yma, bu car Vauxhall Astra a oedd yn teithio tuag at Grucywel mewn gwrthdrawiad â Ford Fiesta glas oedd yn teithio i’r cyfeiriad arall.

Bu farw’r dyn oedd yn gyrru’r Astra a’r wraig oedd wrth lyw y Ford Fiesta.

Cafodd dyn oedd yn teithio yn y Ford Fiesta ei gludo i’r ysbyty ond mae’n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.

Mae’r heddlun apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â’r Uned Plismona’r Ffyrdd drwy ffonio 101.