Leigh Foster (Llun: Heddlu Gwent)
Mae heddlu’n gofyn am help i ddal troseddwr peryglus sydd wedi dianc o garchar agored Prescoed ger Brynbuga.

Maen nhw’n meddwl y gallai Leigh Foster, 41 oed, fod yn ardal Abertawe neu Rydaman.

Roedd wedi cael ei garcharu am ladrad yn 2007 ac mae Heddlu Gwent yn rhybuddio pobol i beidio â mynd ato ond, yn hytrach, i roi gwybod iddyn nhw.

Dyma’r disgrifiad:

  • Mae tua 5’10” ac yn weddol gry’ o ran corff.
  • Mae ganddo wallt brown tywyll sydd wedi ei dorri’n grop iawn.
  • Mae ganddo ddau datŵ ar ei fraich chwith – un o dorch Geltaidd ac un o’r enw ‘Deborah’.
  • Yn y gorffennol, mae wedi defnyddio’r enw Leigh Foster-Griffiths hefyd.

Codi arswyd

Dyna oedd ei enw pan gafodd garchar am bedair blynedd a hanner ar ôl digwyddiad yn Rhydaman pa oedd ef a dynion eraill wedi ceisio dial ar werthwr cyffuriau ond wedi mynd i’r tŷ anghywir gan ddefnyddio cyllell a bat pêl fas i godi arswyd ar ddau deulu diniwed.

Cyfarwyddyd yr heddlu yw y dylai pobol alw 999 os ydyn nhw’n ei weld neu gysylltu ar 101 os oes ganddyn nhw wybodaeth amdano, gan grybwyll y cyfeirnod 158 26/10/14.

Yn y gorffennol, mae’r Aelod Seneddol lleol, David Davies, wedi cynnal cyfarfodydd gydag awdurdodau Prescoed oherwydd pryder am droseddwyr sy’n dianc oddi yno.