Mae awduron un o eiriaduron enwocaf Cymru wedi cwestiynu pam fod darpariaeth geiriaduron Cyrmaeg-Saesneg ar lein yn gwanhau.

Gofynnodd awduron Geiriadur Prifysgol Cymru i Brifysgol Drindod Dewi Sant ar eu cyfrif trydar ddoe: “Beth sydd wedi digwydd i geiriadur.net ?”

Mae geiriadur y Drindod wedi diflannu ers dros wythnos, a hynny ar ôl 12 mlynedd o wasanaeth.

Pan gysylltodd golwg360 a’r Brifysgol, dywedodd llefarydd bod bwriad i ail-danio’r geiriadur ar-lein ond ni chafwyd cadarnhad o bryd fyddai’n digwydd.

Y mis diwethaf cyhoeddodd BBC Cymru eu bod wedi rhoi’r gorau i’w geiriadur ar-lein. Y rheswm y tu ôl i’r penderfyniad oedd bod y “dechnoleg oedd yn cefnogi’r wefan wedi cael ei diffodd”.

Ond yn ôl un o drefnwyr HacIaith, Carl Morris, mae’n anodd deall y rhesymeg tu ôl i benderfyniad y BBC:

“Pe tasai’r geiriadur yn bwysig i’r BBC byddan nhw wedi ffeindio ffordd o’i gefnogi,” meddai ar ei flog.

“Ac mae’r hen geiriadur.net – gwefan Prifysgol y Drindod Dewi Sant – wedi diflannu oddi ar y We. Mae’n edrych fel bod rhywun wedi methu adnewyddu’r enw parth – yn ddamweiniol neu yn bwrpasol.

“Mae’r bysedd yn methu’r geiriaduron sydd wedi diflannu’r mis hwn.”