Christian Bale
Fe fydd yr actor Christian Bale, sydd a’i wreiddiau yn Hwlffordd, yn actio Steve Jobs mewn ffilm newydd sy’n cael ei chynhyrchu gan Danny Boyle.

Mae’r ffilm wedi ei selio ar fywyd y dyfeisiwr a chyd-sylfaenydd cwmni technoleg Apple, Steve Jobs, ac fe fydd y ffilmio yn dechrau o fewn y misoedd nesaf.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan y sgriptiwr Aaron Sorkin mewn cyfweliad a chwmni Bloomberg Television heddiw, ac fe ddaeth i’r amlwg bod Christian Bale wedi cael ei ddewis heb orfod gwneud cyfweliad.

“Roeddem ni’n chwilio am yr actor gorau a Christian Bale yw hwnnw,” meddai Aaron Sorkin.