Ioan Thomas
Mae clwb nos a chaffi Cofi Roc ar sgwâr Caernarfon wedi cael ei roi ar werth am gynigion o dros hanner miliwn.

Daw’r penderfyniad ar ôl i un o’r cyfarwyddwyr, Ioan Thomas, benderfynu ymddiswyddo ar ôl bron i ugain mlynedd yn y swydd.

Cwmni Christies – sy’n arbenigo mewn gwerthu adeiladau sydd â thrwydded i werthu alcohol – fydd yn delio hefo’r gwaith papur ac mae’r adeilad, sy’n cynnwys caffi a chlwb nos Cofi Roc a K2, ar werth am hanner miliwn.

Dywedodd y cynghorydd Ioan Thomas wrth golwg360: “Dw i wedi ymwneud a’r busnes bron bob dydd am ugain mlynedd ac wedi penderfynu fy mod wedi dod i ddiwedd cyfnod.

“Nes i neud y penderfyniad i sefyll lawr ym mis Awst ac mae’r bwrdd wedi rhoi’r adeilad ar werth.

“Rwy’n gobeithio y bydd yn cael ei brynu gan rywun lleol. Mae’n bwysig bod gan Gaernarfon economi sy’n llewyrchu ddydd a nos, i’r ymwelwyr a’r bobol leol.”

Bydd y busnes yn parhau i gyd-weithio gyda’r rheolwr Gilly Harradence.