Mae dyn 41 mlwydd oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad yn Rhydaman neithiwr.

Mae llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys yn dweud i’r digwyddiad gymryd lle ar ddreif ty yn Heol Penybant tua 9.30yh.

Mae dau ddyn wedi’u harestio ac yn y ddalfa.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr ymosodiad gysylltu trwy ffonio’r rhif 101..