Bydd Elin Fflur yn rhyddhau ei sengl gynta’ ers chwe blynedd ddydd Llun, ac mae cyfle egscliwsif i ddarllenwyr golwg360 weld y fideo.

Er iddi recordio degau o berfformiadau ar gyfer y teledu, mae’r gantores o Fôn yn dweud mai’r fideo ar gyfer y gân ‘Sgwenna dy stori’ yw’r gyntaf iddi ei ffilmio.

“Rydan ni wedi bod mewn coedwig ar gyrion Llanfairpwll, ar y lôn allan am Brynsiencyn, yn ffilmio yn y tywyllwch ac yn goleuo’r lle i fyny yn neis,” eglura Elin Fflur.

Ar gyfer y fideo bu un o gydweithwyr y gantores – y  cyfarwyddwr Siôn Griffiths o Langefni – yn gosod camera ar ddrôn er mwyn ffilmio o’r awyr.

Hefyd mae technoleg CGI – computer generated imagery – wedi ei ddefnyddio i greu gwreichion tân yn y fideo.

Sgrechian

Mae’r gân ‘Sgwenna dy stori’ oddi ar yr albym hirddisgwyliedig Lleuad Llawn.

Nid yw Elin Fflur wedi rhyddhau unrhyw ddeunydd gwreiddiol ers yr albym Hafana yn 2008.

Bu’n gweithio ar y caneuon newydd ers mis Ionawr ac mae wedi bod yn rollercoaster emosiynol.

“Mae o wedi bod yn brofiad od,” meddai’r gantores 30 oed sy’n cyflwyno rhaglen Heno ar S4C.

“Tynnu gwallt o fy mhen, sgrechian, licio fo, poeni amdany fo, licio fo eto.

“Dw i wedi bod yn brwydro efo fi fy hun ychydig bach. Ond dw i yn hapus iawn iawn iawn iawn iawn – a dweud y gwir, dw i wrth fy modd ar ôl clywed pob dim wedi’i orffen.”

‘Sgwenna dy stori’/‘Cloriau Cudd’ ar gael i’w lawrlwytho ddydd Llun, a Lleuad Llawn allan fis nesaf.

Dyma’r fideo: