Aberaeron
Mae Bwrdd Iechyd wedi cytuno i gynnal trafodaethau gyda meddyg teulu sy’n bwriadu rhoi’r gorau i’w waith a chau meddygfa sy’n delio gyda 1,400 o gleifion.

Fe ddaeth mwy na 200 o bobol i gyfarfod yn Aberaeron neithiwr i drafod pryderon ynglŷn â phenderfyniad Dr Jonathan Price-Jones i ymddiswyddo oherwydd ei fod wedi cyrraedd pen ei dennyn.

“Roedd hi’n llawn dop yna ac roedd pobol yn grac iawn gyda’r Bwrdd Iechyd,” meddai’r Cynghorydd lleol, Elizabeth Evans, sy’n dweud bod y penderfyniad i drafod gyda’r meddyg yn “gam ymlaen”.

Mwy o gefnogaeth

“Fe fyddai Dr Price-Jones yn ystyried aros yn ei swydd pe bai e’n cael mwy o gefnogaeth,” meddai Elizabeth Evans.

“Fydd Hywel Dda yn gwrando? Sa i’n gwybod, ond maen nhw wedi cytuno i gael cyfarfod a dw i am wneud yn siŵr ei fod yn digwydd.”

Roedd yr Aelod Cynulliad Elin Jones a’r Aelod Seneddol Mark Williams yn y cyfarfod yng Ngwesty’r Plu hefyd, ynghyd â Chyfarwyddwr Clinigol Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Galw am ganolfan iechyd

Mae pobol y dref hefyd yn flin am fethiant y Bwrdd Iechyd i sefydlu canolfan iechyd yn Aberaeron.

“Mae pobol Aberaeron wedi aros am dros 10 mlynedd i siarad â rhywun o Hywel Dda ynglŷn â chanolfan iechyd yn Aberaeron, rhywbeth wnaethon nhw addo yn 1999,” meddai Elizabeth Evans.

“Ers hynny, dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw un ohonyn nhw. Fe aeth Hywel Dda o’r cyfarfod neithiwr gyda’r awgrym nad yw pobol Aberaeron yn mynd i eistedd lawr a derbyn beth oedden nhw’n ddweud.”

Y cefndir

Roedd Dr Jonathan Price-Jones wedi dweud wrth golwg360 ei fod wedi penderfynu rhoi’r gorau i’w swydd oherwydd diffyg cefnogaeth gan y Bwrdd Iechyd.

Fe ddywedodd ei fod wedi bod yn rheoli meddygfa Stryd Rhydychen ar ei ben ei hun ers 13 o flynyddoedd ac nad yw e wedi cael cefnogaeth yr awdurdod iechyd lleol i drefnu ei fod yn cael amser i ffwrdd o’r gwaith.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn dweud eu bod wedi cynnig “opsiynau amrywiol” i Dr Price-Jones ond ei fod wedi ymateb trwy ddweud y byddai’n well ganddo barhau i fod yn berchen ar y feddygfa.

Stori: Gwenllian Elias