Comisiynydd Plant, Keith Towler
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod am ailddechrau’r broses o hysbysebu am swydd Comisiynydd Plant newydd – er bod ymgeiswyr wedi ceisio am y swydd yn barod.

Fe fydd Keith Towler yn rhoi’r gorau i’w swydd fel y Comisiynydd presennol ar 28 Chwefror 2015, ac mae’r broses o benodi ei olynydd eisoes wedi dechrau ers 23 Ebrill.

Ond fe gyhoeddodd y Gweinidog Cymunedau a Thaclo Tlodi, Lesley Griffiths, heddiw bod y broses yn cael ei gohirio oherwydd yr ad-drefnu diweddar wnaeth Carwyn Jones i’r cabinet.

Dywedodd ei bod hi eisiau bod yn rhan o’r broses o’r cychwyn cyntaf.

‘Pwysigrwydd y swydd’

Yn ôl adroddiadau, roedd tri o bobol wedi ymgeisio am y swydd yn wreiddiol gan gynnwys Helen Mary Jones, sydd erbyn hyn wedi tynnu ei henw yn ôl am ei bod wedi ei dewis i fod yn Aelod Cynulliad dros Lanelli yn etholiadau’r Cynulliad yn 2016.

Dywedodd y Gweinidog Lesley Griffiths: “Ar ôl ystyried yn ofalus, rwyf wedi penderfynu dilyn yr egwyddorion penodiadau cyhoeddus, ac ailgychwyn y broses benodi o’r dechrau.

“Gan gofio pwysigrwydd swydd y Comisiynydd Plant a’m swyddogaeth arweiniol fel Gweinidog â chyfrifoldeb dros blant, bydd hefyd yn rhoi cyfle i mi fod yn rhan o’r broses o’r cychwyn cyntaf.

“Wrth ddod i benderfyniad rwyf wedi, wrth gwrs, ystyried yr ymgeiswyr oedd eisoes yn rhan o’r broses benodi bresennol ac effaith hyn arnyn nhw.

“Mae fy swyddogion wedi cysylltu â’r ymgeiswyr i roi gwybod iddynt am fy mhenderfyniad, ac i ddiolch iddyn nhw am eu hymgeisyddiaeth a’u hamynedd tra wyf wedi ystyried y ffordd ymlaen.”

Bydd Aelodau’r Cynulliad a phanel o bobl ifanc yn parhau i fod yn rhan o’r broses ddethol, meddai.