Mae tua 1,400 o bobol yn Aberaeron yn aros i glywed beth fydd yn digwydd i’w meddygfa leol wedi i’r meddyg teulu lleol gyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo oherwydd diffyg cefnogaeth gan yr awdurdod iechyd lleol.

Dywedodd Dr Jonathan Price-Jones wrth golwg360 ei fod wedi bod yn rheoli meddygfa Stryd Rhydychen ar ei ben ei hun ers 13 o flynyddoedd ac nad yw e wedi cael cefnogaeth yr awdurdod iechyd lleol i drefnu ei fod yn cael amser i ffwrdd o’r gwaith.

A dywedodd y cynghorydd lleol Elizabeth Evans fod trigolion lleol yn “grac” â’r bwrdd iechyd ynglŷn â’r diffyg cefnogaeth sydd wedi ei roi i Dr Price-Jones.

Ychwanegodd bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi “colli cyfle i siarad gyda Dr Price-Jones” ac y bydd cleifion y feddygfa yn dioddef oherwydd hynny.

Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal am 5:30 heno yng ngwesty’r Plu yn Aberaeron i drafod y sefyllfa. Fe fydd Elizabeth Evans, yr Aelod Cynulliad Elin Jones a’r Aelod Seneddol Mark Williams yn cwrdd cyn y cyfarfod cyhoeddus.

‘Diffyg cefnogaeth’

Dywedodd Dr Price-Jones: “Am wn i, bydd yr awdurdod iechyd lleol yn awyddus i gyfiawnhau eu diffyg gweithgarwch a’u penderfyniad i gau’r practis wedi i fi roi’r gorau iddi.

“Mae’r awdurdod iechyd yn dweud fy mod i wedi ‘ymddeol’ ar Orffennaf 30. Nid ymddeol fel y cyfryw ydw i – ‘ymddeol’ yw’r term ar gyfer gadael un feddygfa i fynd i rywle arall. Dim ond 52 oed ydw i felly dw i ddim am ymddeol.

“Dw i’n gweithio cyfnod o notis sy’n dod i ben ar Hydref 31.”

Dywedodd ei fod e wedi ymddiswyddo oherwydd diffyg cefnogaeth yr awdurdod iechyd lleol.

“Mae’r practis yn cael ei reoli fel contractwyr annibynnol sy’n golygu fy mod i’n hunangyflogedig i bob pwrpas. Does dim gorfodaeth ar yr awdurdod iechyd lleol i’n helpu ni wedyn – ond mae disgwyl iddyn nhw ddod o hyd i ddoctoriaid ar gyfer y cleifion.

“Y cwestiwn mawr yw beth fyddan nhw’n ei wneud i helpu practis sy’n methu dod o hyd i gyfyr dros dro.”

‘Colled fawr’

Dywedodd y cynghorydd lleol Elizabeth Evans wrth golwg360 fod ’na bryder sylweddol yn lleol ynglŷn â beth fydd yn digwydd i’r feddygfa.

“Mae ‘mheiriant ateb i wedi bod yn llawn bob nos – mae pobol yn pryderu beth sydd am ddigwydd iddyn nhw, ac yn dweud nad ydyn nhw eisiau teithio i Lanbed neu Gei Newydd i weld meddyg,” meddai.

“Maen nhw’n grac iawn gyda sut mae Dr Price-Jones wedi cael ei drin gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda. Maen nhw moyn ei gadw fe, mae e’n feddyg da iawn ac mae pobol yn ei barchu.

“Mae tua thri meddyg teulu arall yn Aberaeron, ond bydd un ohonyn nhw’n ymddeol y flwyddyn nesa’.”

Mwya’ o gleifion tros 65 oed

Ychwanegodd: “Dr Price-Jones sydd a’r mwya’ o gleifion dros 65 oed yng Ngheredigion a’r mwya’ o gleifion sy’n dioddef o glefyd siwgr. Ac fe fydd hyn yn effeithio’n fawr arnyn nhw, maen nhw wedi dod i mewn i Aberaeron i siopa neu i weld y meddyg erioed,” meddai’r cynghorydd.

“Mae’r Bwrdd Iechyd wedi colli cyfle i siarad hefo Dr Price Jones. Mae yna wal wedi dod lan ond y cyfan oedd angen oedd trefnu rhywun i weithio yn ei le pan oedd eisiau mynd am ddyddiau o hyfforddiant neu wyliau. Mae’n golled fawr i Aberaeron.”

‘Trafod opsiynau’

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda:

“Derbyniodd y Bwrdd Iechyd benderfyniad Dr Price Jones i ymddeol fel y nodwyd yn ei lythyr dyddiedig 30/07/14.

“Cydnabyddwn pa mor anodd mae bod yn feddyg teulu unigol yn yr hinsawdd sydd ohoni ac rydym wedi gweithio’n agos â Dr Price Jones ers mis Medi 2013 i helpu i reoli rhai o’r heriau hyn.

“Yn ystod y cyfnod hwn cafodd opsiynau amrywiol eu cyflwyno, eu trafod a’u hymchwilio mewn mwy o fanylder gan gynnwys bod y Bwrdd Iechyd yn rheoli’r feddygfa, cymorth ychwanegol i ganiatáu i Dr Price Jones barhau fel perchennog y feddygfa, uno â meddygfa arall ac, yn olaf, cau’r feddygfa.

“Yn y Flwyddyn Newydd dywedodd Dr Price Jones wrth y Bwrdd Iechyd y byddai’n well ganddo barhau i fod yn berchen ar y feddygfa, a’i rheoli.”