Mae cwymp mewn prisiau llaeth yn achosi “straen ariannol mawr” i fusnesau ffermio llaeth Cymru ac mae angen mwy o weithredu i gefnogi’r ffermwyr.

Dyna fydd hanfod araith Cadeirydd NFU Cymru, Aled Jones, wrth iddo siarad yn Sioe Laeth Cymru yng Nghaerfyrddin heddiw.

Yn ôl Aled Jones, sy’n ffermio yn ardal Caernarfon, mae ffermwyr llaeth Cymru yn ei chael hi’n anodd gwneud bywoliaeth o ganlyniad i doriadau “niweidiol” i brisiau farmgate, sydd wedi gostwng tua 25% yn y misoedd diwethaf.

Mae’n galw i siopau wneud mwy i ddarparu pris llaeth teg i ffermwyr Cymru:

“Mae canllawiau prisiau ar y sector llaeth hylifol ond mae’r rhan fwyaf o laeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i wneud caws felly mae angen i’r canllawiau gael eu hymestyn i’r farchnad gaws hefyd.

“Ni ddylai bod cynnyrch llaeth sy’n cael ei brosesu a’i werthu ym Mhrydain weld y lefel yma o doriadau a beth ydym ni’n ei weld.

“Ni ddylai bod cwmnïau sy’n darparu cynnyrch Prydeinig fod yn cymryd mantais o’r farchnad ryngwladol gyfnewidiol.”

Angen esboniad

Ychwanegodd Aled Jones fod angen i siopau esbonio sut bod y prisiau sy’n cael ei roi i ffermwyr wedi disgyn yn sylweddol, ond bod pris cilo o gaws wedi codi o 3.8% ar ddiwedd mis Awst.

“Ni ddylai ffermwyr llaeth a phroseswyr fod yn cymryd y baich oherwydd bod siopau yn brwydo gyda’i gilydd am gwsmeriaid.”