Mae Cymdeithas Ddiwygio Etholiadol Cymru (ERS) wedi datgan ei siom fod Llywodraeth San Steffan wedi gwrthod y cynnig am fwy o Aelodau Cynulliad yng Nghaerdydd.

Mewn dadl yn Nhŷ’r Arglwyddi neithiwr, fe wnaeth y Farwnes Anita Gale, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Farwnes Christine Humphreys a’r Arglwydd Ivor Richard gefnogi’r syniad.

Ond gwrthodwyd y cynnig gan Weinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson. Er hyn fe ddywedodd ei bod yn cydnabod y gefnogaeth yn Nhŷ’r Arglwyddi  am fwy o ACau ac am basio hynny ymlaen i’w chydweithwyr yn y llywodraeth.

Yn ogystal, fe wnaeth hi alw ar y pleidiau gwleidyddol i wneud mwy i sicrhau bod y cyhoedd yn rhan o ddadl ar y mater.

Roedd y ddadl yn rhan o drafodaeth ynglŷn â Bil Cymru a datganoli rhagor o bwerau i Gymru yn sgil refferendwm annibyniaeth Yr Alban.

‘Colli cyfle’

“Mae gwleidyddion o bob ochr o’r Tŷ wedi cydnabod bod Cymru angen Cynulliad sy’n gryfach ac sy’n medru cadw llygad ar Lywodraeth Cymru,” meddai cyfarwyddwr ERS Cymru, Steve Brooks.

“Gyda chyllideb o fwy na £15 biliwn a phwerau mewn meysydd fel iechyd, addysg a chynllunio, rydym angen y nifer cywir o ACau i oruchwylio’r gwaith ar ran y cyhoedd yng Nghymru.

“Mae gan Lywodraeth yr Alban 129 aelod, Gogledd Iwerddon 108, ond dim ond 60 sydd yn y Cynulliad. Wrth wrthod y cynnig am fwy o ACau, mae Llywodraeth Prydain wedi colli cyfle i gryfhau democratiaeth Cymru.”

Consensws

Er ei siom dros gynyddu nifer yr ACau, fe wnaeth Cymdeithas Ddiwygio Etholiadol Cymru groesawu bod Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, am weld consensws yn cael ei ddatblygu ar ddyfodol diwygio pwerau i Gymru cyn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf. Bu Stephen Crabb yn cynnal trafodaethau ddoe gyda chynrychiolwyr y pleidiau eraill i drafod datganoli rhagor o rym i Gymru.

Ychwanegodd Steve Brooks: “Mae hi rŵan yn amser i’n pleidiau ddangos arweiniad cryf. Fel gydag unrhyw newid cyfansoddiadol, mae’n bwysig i’r pleidiau gyd-weithio a chynnwys pobol Cymru yn eu trafodaethau.”