Y morlo bychan
Mae milfeddygon yn gofalu am forlo ifanc wedi iddo gael ei ddarganfod mewn cyflwr gwael mewn maes parcio ger Aberystwyth.

Daeth swyddogion yr RSPCA o hyd i’r morlo y tu allan i un o adeiladau’r RNLI ym mhentref Borth ger Aberystwyth ar 4 Hydref.

Credir fod yr anifail wedi gwneud ei ffordd o’r dŵr ac wedi croesi’r ffordd i’r maes parcio.

“Roedd ganddo sawl anaf. Roedd yn edrych yn bryderus ac yn denau iawn,” meddai William Galvin o’r RSPCA.
“Nid oedd son am rieni yn unman.”

Mae’r morlo erbyn hyn yn cael gofal mewn canolfan adfer ac mae disgwyl iddo fod yno am rai misoedd cyn cael ei ryddhau yn ôl i’r gwyllt.

Gofynnodd llefarydd ar ran yr RSPCA i unrhyw un sy’n dod o hyd i forlo i gysylltu â’r asiantaeth ar 0300 1234 999.