Ceffylau Dylan Jones
Ceffylau o Wynedd fydd i’w gweld mewn golygfeydd o’r Rhyfel Byd Cyntaf ar fersiwn ddiweddara’r BBC o nofel ddadleuol DH Lawrence, Lady Chatterley’s Lover.

Yn y gorffennol mae Dylan Jones o Lanberis a’i geffylau wedi cydweithio gyda rhai o gynhyrchwyr ffilmiau Hollywood mwyaf y byd.

Mae ffilmiau fel Warhorse a Willow yn ogystal â rhaglenni teledu fel  Merlin a Robin Hood ar CV y ceffylau, a’r prosiect diweddaraf yw addasiad y BBC o nofel Lady Chatterley’s Lover sy’n cael ei ffilmio yn ne Cymru.

“Joban ddifyr”

Dylan Jones, 37, sy’n wreiddiol o Lanberis, yw prif feistr y ceffylau. Ynghyd â dau hyfforddwr arall, bu’n hyfforddi’r  anifeiliaid ar droed yr Wyddfa ers 20 mlynedd.

“Mae’n joban ddifyr. Dw i wedi tyfu hefo ceffylau, mi roedd mam yn rhedeg canolfan merlota yma’n Llanberis,” meddai wrth golwg360.

Rydan ni’n prynu’r ceffylau yn reit ifanc a dechrau eu hyfforddi o’r diwrnod cyntaf.

“Mae’n cymryd tua phum mlynedd i’w hyfforddi yn llawn ac mi rydan ni’n gweithio hefo nhw o naw tan chwech bob diwrnod.

“Dw i wedi gorfod hyfforddi rhai i dynnu cart a rhai eraill i orwedd yn llonydd fel eu bod nhw wedi marw.”

Coleg y Drindod

Dilyn gyrfa fel actor oedd bwriad gwreiddiol Dylan Jones, ond fe wnaeth y diffyg gwaith ei orfodi i newid trywydd.

“Wnes i hyfforddi fel actor yng Ngholeg y Drindod, ond doedd yna ddim gwaith i dalu’r biliau.

“Roedd o’n beth naturiol i wneud am fy mod i wedi tyfu i fyny hefo ceffylau ac mi wnes i gymryd drosodd y busnes gan fy nhad pan oeddwn i’n 20 oed.

“Wnes i ddechrau yn darparu ceffylau i S4C ac ers hynny dw i wedi  bod yn gweithio ar Warhorse, Robin Hood, Snow White and the Huntsmen a llawer mwy.”