Mae Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio wedi iddi ddod i’r amlwg fod geifr gwyllt wedi cael eu lladd gyda bwa croes yng Ngwynedd.

Ers dechrau’r flwyddyn, mae pum gafr wedi cael eu lladd yn ardal Trefor ym Mhen Llŷn. Cafodd y diweddaraf ei lladd y mis diwethaf.

Mae’r heddlu wedi cymryd DNA o’r saethau mewn ymgais i ddal y troseddwr.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn credu bod y saethwr yn aros nes bos y geifr yn ddigon agos i’w saethu.

Ychwanegodd bod rhai o’r anifeiliaid yn fyw am ddyddiau cyn iddyn nhw farw, ac eraill wedi gorfod cael eu difa.