Mae gwraig un o fosus cwmni Laura Ashley wedi dweud wrth farnwr heddiw fod ganddi gasgliad o 1,000 o barau o esgidiau.
Dywedodd y cyn-Frenhines Brydferthwch Pauline Chai bod ei chasgliad wedi cynyddu dros bedwar degawd.
Amcangyfrifodd fod ganddi 700 pâr yn ei thŷ yn y wlad yn Berkhamsted, Hertfordshire.
Roedd Ms Chai – a fu’n Miss Malaysia yn 1969 – yn rhoi tystiolaeth wrth iddi ymladd yn y llys gyda’i gŵr Kay Peng, 75, am arian.
Cymraes o Ferthyr Tudful oedd Laura Ashley wnaeth sefydlu’r cwmni gwneud dillad yn wreiddiol.