Peter Capaldi
Fe fydd Peter Capaldi yn ymddangos mewn ffilm newydd fydd yn cael ei dangos yn Arddangosfa Doctor Who yng Nghaerdydd.

Bydd yr atyniad yn ail-agor yn ddiweddarach y mis hwn yn dilyn cyfnod o adnewyddu’r arddangosfeydd i gyd-fynd â phennod newydd yn hanes y cymeriad.

Roedd yr arddangosfa flaenorol yn cynnwys Matt Smith, rhagflaenydd y Doctor presennol.

Mae props newydd yn rhan o’r arddangosfa, yn ogystal ag angenfilod a setiau hanesyddol o’r gyfres.

Dywedodd Stephen Davies o BBC Worldwide ei fod yn ffyddiog y byddai “ffans Doctor Who wrth eu bodd o gael cymryd rhan mewn antur newydd sbon gyda’r deuddegfed Doctor”.

Bydd tocynnau ar gael ar gyfer yr arddangosfa newydd o Hydref 7 ymlaen.