Y newyddiadurwr Jeremy Bowen
Fe fydd y newyddiadurwr o Gymru a Golygydd Dwyrain Canol y BBC, Jeremy Bowen, yn cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad i deledu rhyngwladol.

Yn seremoni Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru ym mis Hydref, bydd yn derbyn Gwobr Siân Phillips – sy’n cael ei roi bob blwyddyn i Gymro neu Gymraes sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at wneud ffilmiau neu deledu rhwydwaith rhyngwladol.

Cafodd Jeremy Bowen ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd ac mae’n fab i gyn newyddiadurwr y BBC a chyn-olygydd newyddion Radio Wales, Gareth Bowen.

Mae wedi gweithio fel newyddiadurwr a darlledwr gyda’r BBC ers dros 30 mlynedd, yn gohebu o fwy na 70 o wledydd ac 20 o ryfeloedd yn y Gwlff, El Salvador, Libanus, y Lan Orllewinol, Afghanistan, Croatia, Bosnia, Chechnya, Somalia, Rwanda, Syria a Gaza.

Ar hyn o bryd, ef yw un o’r ychydig newyddiadurwyr tramor sydd yn Syria yn gohebu ar yr argyfwng yno.

‘Anrhydedd mawr’

Wrth glywed ei fod am dderbyn Gwobr Siân Phillips, dywedodd Jeremy Bowen: “Mae’n bleser ac yn anrhydedd mawr derbyn y wobr hon. Mae’n golygu llawer iawn i mi. Mae fy ngwaith yn gofyn am ymrwymiad mawr, ac mae’n fraint i mi gael y gydnabyddiaeth hon.”

Mae’r seremoni yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sul 26 Hydref 2014.