Mae Heddlu De Cymru yn gwneud ail apêl am lygad dystion i ddamwain ffordd ar ôl i seiclwr gael ei hanafu’n ddifrifol.

Ar 14 Awst, cafodd merch 35 oed ei tharo gan gar ystâd du Ford Mondeo ar ffordd yr A4119 ger safle hen Ysbyty Rhydlafar yng Nghaerdydd am tua 7:45 y bore.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty gyda sawl anaf difrifol, ac mae’n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un welodd y ddamwain i gysylltu â nhw ar 101 a dyfynnu cyfeirnod 1400298190.