Yr atomfa bresennol ar yr ynys
Mae’r sefydliad addysg bellach Grŵp Llandrillo Menai wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer datblygiad gwerth £20miliwn, er mwyn paratoi myfyrwyr ar gyfer swyddi gyda’r atomfa arfaethedig Wylfa Newydd ar Ynys Môn.

Gobaith Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai yw y bydd 20% o’r 8,500 o weithwyr fydd yn rhan o’r broses o adeiladu’r atomfa yn dod o ogledd Cymru.

Mae arweinwyr campws Coleg Menai Llangefni hefyd yn cyd-weithio hefo Horizon, y cwmni sydd eisiau adeiladu’r atomfa newydd, i greu cyrsiau sy’n  benodol ar gyfer y math o waith fydd yn cael ei wneud mewn pwerdy niwclear.

Wrth gyfeirio at yr angen lleol am swyddi, dywedodd y Prif Weithredwr Glyn Jones wrth golwg360 ei fod yn “arbennig o bwysig hyfforddi gweithwyr lleol i wneud y gwaith”.

“Rydym ni wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer datblygu campws Llangefni ymhellach gyda gweithdy peirianneg newydd, fel rhan o’n hymateb ni i’r gofynion sgiliau sydd gan Horizon,” ychwanegodd Glyn Jones.

“Ac mi fyddwn ni hefyd yn gweithio tuag at wneud yn siŵr fod ein holl fyfyrwyr yn cael cymwysterau sydd yn ymwneud â gweithio yn y cyd-destun sifil mawr.

Swyddi i bobol leol

Dywedodd Glyn Jones hefyd y byddai Wylfa Newydd yn cynyddu’r nifer o raddedigion o’r coleg sy’n mynd i weithio yn y farchnad leol.

“Rydym ni’n gobeithio y bydd o leiaf 20% o’r 8,500 o adeiladwyr yn sicr o ogledd Cymru,” meddai.

“Pan ydach chi’n edrych ar y cynllun adeiladu’r pwerdy newydd, mi fydd uchafswm o 8,500 o weithwyr ar y safle – sy’n rhywbeth tebyg i faint cynllun adeiladu stadiwm Gemau Olympaidd yn Llundain. Mae’n anferth o brosiect gwerth £8biliwn.

“Ar ôl iddo gael ei adeiladu, mi fydden nhw’n chwilio am tua 1,000 o dechnegwyr sgiliau uchel ac mi rydym ni’n paratoi at y ddau gyfnod yna.

“Mae’n arbennig o bwysig hyfforddi gweithwyr lleol i wneud y gwaith yma.

“Mi fydd o’n dipyn o welliant o beth sydd yma rŵan. Er bod rhan fwyaf o raddedigion peirianwyr ac adeiladwyr Coleg Menai yn mynd i mewn i’r farchnad leol fel mae hi, mi fydd y cynnydd yma ar ben hynny.”