Ysbyty Ystrad Fawr
Roedd meddyg o Gymru wedi dweud mai embaras oedd wedi gwneud iddo ffugio cyfres o bresgripsiynau ar gyfer y cyffur Viagra.

Yn ôl Mansoor Kassim, a oedd yn gweithio i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn Ysbyty Ystrad Fawr ger Caerffili, doedd dim eisiau cyfadde’ wrth neb fod ganddo broblem iechyd.

Fe ddywedodd wrth banel disgyblu ym Manceinion mai dyna’r unig dro iddo fod yn anonest a’i fod wedi gwneud “camgymeriad twp”.

Roedd Mansoor Kassim wedi cael dedfryd o garchar gohiriedig am ei drosedd ac mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn dweud bod ei record troseddol yn golygu nad yw’n ffit i fod yn feddyg.

Atal

Cafodd Kassim ei atal o’i waith yn dilyn pryderon o du adran trawma ac orthopedig yr ysbyty yng Nghaerffili, lle’r oedd e newydd ddechrau ar ei waith.

Cyfaddefodd Kassim wrth y panel ei fod e wedi cyflawni trosedd ddifrifol, ond fe ddywedodd ei fod yn “difaru” ac yn “llawn embaras”.

Yn ystod yra achos llys, fe gafodd ei gyhuddo o ddau achos o ddwyn, pedwar achos o ffugio presgripsiwn a thri achos o dwyll.

Mae disgwyl i’r gwrandawiad bara tridiau.