Cerys Matthews
Mewn cyfres deledu newydd fe fydd y gantores Cerys Matthews yn edrych ar yr hanes tu ôl i gasgliad chwedlau gwerin enwocaf Cymru, Y Mabinogion.

Mae The Secret Life of Books ar BBC Four yn gyfres chwe rhan sy’n astudio rhai o weithiau llenyddol gorau Prydain.

Mewn rhaglen nos Fawrth nesaf, 23 Medi, bydd Cerys Matthews yn sôn am ei brwdfrydedd am Y Mabinogion, sef y casgliad o chwedlau gwerin sy’n cynnwys un o’r cyfeiriadau cynharaf at y Brenin Arthur.

Bydd hi’n teithio o gwmpas y dirwedd a ysbrydolodd y chwedlau a hefyd yn ymweld â Llyfrgell Bodleian i archwilio’r llawysgrif o’r 14eg ganrif, Llyfr Coch Hergest, sy’n cynnwys y chwedlau.

Dywedodd Cassian Harrison, Golygydd Sianel BBC4:

“Mae The Secret Life of Books yn ddathliad o rai o’r gweithiau ffuglen mwyaf dylanwadol yn y byd.

Diwylliant

Mae’r gyfres yn cael ei chynhyrchu mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol Agored. Dywedodd Rob Humphreys, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru:

“Mae’r Brifysgol Agored yn ymfalchïo yn ei phartneriaeth hirhoedlog â’r BBC ac rydym wrth ein bodd yn adeiladu ar y sylfeini y gwnaethom eu gosod gyda The Story of Wales gyda rhaglen arall am hanes a diwylliant cyfoethog Cymru.”