Mae Cymraes a Llydäwr wedi dod at ei gilydd i gyfansoddi cân am annibyniaeth yn yr Alban.

Yn y gan ‘Song For Scotland’, sy’n cael ei chanu yn Saesneg, mae’r gantores Lleuwen Steffan a’r basydd Vincent Guérin yn datgan eu cefnogaeth i’r Alban fel gwlad annibynnol a hefyd yn rhoi hwb o anogaeth i’r wlad wrth ddweud: “Mae’r Celtiaid y tu ôl i chi.”

Mae brawddegau eraill yn dweud:

“Mae gennych deulu yng Nghymru, brodyr a chwiorydd yn Iwerddon, cefndryd a chyfnitherod yn Llydaw, heb anghofio Cernyw.

“Peidiwch â phoeni, rydym y tu ôl i chi.”

“Mae gennych eich llais eich hun, gadewch i ni ei glywed. Cymrwch eich lle ar y llwyfan rhyngwladol.”

Gellir gweld y gân yn cael ei pherfformio isod: