Mae angen i gyfryngau Cymru greu gofod i drafod gemau cyfrifiadurol a datblygiadau digidol eraill os ydyn nhw am symud gyda’r oes, yn ôl un blogiwr.

Dywedodd Elidir Jones, sydd yn gyfrannwr i Fideo Wyth, nad oedd yn teimlo fod y bwrlwm a’r diddordeb enfawr mewn gemau cyfrifiadurol yng Nghymru yn cael ei adlewyrchu yn y cyfryngau.

Roedd Elidir Jones yn siarad mewn trafodaeth yng Ngŵyl Golwg heddiw yn trafod dyfodol gemau cyfrifiadurol yn y Gymraeg, gyda chyfarwyddwr digidol S4C Huw Marshall a blogiwr technoleg golwg360 Daf Prys.

Yn y drafodaeth fe fynnodd Huw Marshall fod gwir alw am siaradwyr Cymraeg yn y diwydiant datblygu gemau cyfrifiadurol, ac y bydden nhw’n gallu “cerdded mewn i swyddi fory”.

Mae’r diwydiant hefyd yn debygol o fod yn medru datblygu mwy o gemau fydd yn medru cael eu chwarae yn yr iaith Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf, yn ôl Daf Prys.

Fe awgrymodd y tri ei bod hi’n bryd i gemau cyfrifiadurol gael mwy o sylw yn y Gymraeg, yn enwedig yn sgil llwyddiant y gêm ddiweddar Enaid Coll/Master Reboot a gafodd ei ddatblygu’n ddwyieithog.

“Mae hoffter pobl ifanc o gemau jyst wedi tyfu a thyfu a thyfu,” meddau Elidir Jones. “Dw i’n meddwl ei bod hi’n hollbwysig rŵan bod ’na rywbeth ar y teledu’n rheolaidd.”

“Mae’r diwydiant jyst yn enfawr … [ac] mae’r awydd yna gan bobl Cymru i glywed am y pethau ‘ma rŵan.

“Ar y funud dydi o ddim yna. Dyna be’ ydan ni ar Fideo Wyth yn trio gwneud yn araf bach.”

Assassin’s Creed yn y Gymraeg?

Roedd y Gymraeg o fewn trwch blewyn i gael ei gynnwys ar un o’r gemau cyfrifiadurol mwyaf poblogaidd ar y blaned llynedd, yn ôl Elidir Jones.

Mae cyfres Assassin’s Creed yn un o’r gemau mwyaf poblogaidd yn y byd, ac yn y gêm ddiweddaraf y prif gymeriad oedd môr-leidr Cymraeg Edward Kenway.

Mewn rhai rhannau o’r gêm mae cymeriad Kenway, a leisiwyd gan y Cymro Matt Ryan, yn siarad â chymeriadau Cymreig eraill fel Barti Ddu.

Bu bron i’r sgyrsiau hynny gael eu recordio yn y Gymraeg, meddai Elidir Jones – petai tad Matt Ryan wedi ateb y ffôn i gyfrannu llais y cymeriadau eraill.