Huw Vaughan Thomas
Er bod cynllun amgylcheddol Glastir yn welliant o gynlluniau blaenorol Llywodraeth Cymru, mae “diffygion sylweddol” yn parhau i fod yn ol adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Dywedodd yr Archwilydd, Huw Vaughan Thomas, fod y ffordd cafodd Glastir – sef system budd-daliadau i ffermwyr – ei lunio a’i weithredu wedi adlewyrchu rhai o’r gwersi a ddysgwyd o gynlluniau blaenorol y Llywodraeth.”

Ond mae’n ymddangos bod nifer sydd wedi gwneud cais i ymuno â Glastir yn llawer llai na’r hyn a ragwelwyd ac nid yw mesurau i helpu i werthuso llwyddiant y cynllun wedi cael eu rhoi mewn lle.

Cafodd Glastir ei gyflwyno ym mis Mai 2009 i gymryd lle Tir Gofal a sawl cynllun amaeth-amgylchedd arall a gynhaliwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru. Y gobaith yw y bydd taliadau grant gwerth £119 miliwn o dan Glastir, gan gynnwys £65 miliwn o arian yr Undeb Ewropeaidd, yn cael eu gwneud erbyn 2015.

Argymhellion

Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys:

• Sicrhau bod tirddeiliaid sy’n cael arian grant yn ymrwymo i wneud newidiadau sylweddol i’w harferion rheoli tir sy’n helpu’n uniongyrchol i gyflawni amcanion Glastir.
• Pennu targedau ar gyfer Glastir sy’n heriol ond yn gyflawnadwy.
• Egluro maint y gwelliannau y mae’n disgwyl i Glastir eu sicrhau, erbyn pryd a sut y bydd y rhain yn cyfrannu at amcanion ehangach.
• Monitro costau gweinyddu Glastir yn rheolaidd.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:

“‘Mae Glastir wedi adlewyrchu rhai o’r gwersi a ddysgwyd o gynlluniau amaeth-amgylchedd blaenorol. Fodd bynnag, fel y dengys fy adroddiad a chanfyddiadau adolygiadau blaenorol o’r cynllun, mae modd gwella cynllun Glastir a’r modd y caiff ei weinyddu.”

‘Testun gofid’

Mewn ymateb i’r adroddiad, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, Darren Millar ei bod yn “destun gofid” nad yw’r Llywodraeth wedi mynd i’r afael a’r diffygion sy’n cael eu hamlinellu:

“Mae’r lefel o ddefnydd, ynghyd â’r diffyg realaeth ymddangosiadol mewn rhai agweddau o broses gosod targedau’r Llywodraeth, yn siomedig.

“Yn ogystal, mae’r ffaith nad oes meini prawf llwyddiant clir yn bodoli yn golygu y bydd hi’n anodd asesu effaith gyffredinol y cynllun.

“Ond yn fwy sylfaenol, gallai gwerth ychwanegol Glastir fod yn amheus os bydd rhai deiliaid tir yn cael cyllid grant pan nad yw’r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud newidiadau sylweddol i’w harferion rheoli tir.

“Yn ei adroddiad ar gynllun amaeth-amgylchedd Tir Gofal ym mis Medi 2008, gwnaeth Pwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru [fel yr oedd ar y pryd] argymhellion ynghylch y ddau fater hyn ac mae’n destun gofid nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i’r afael yn llawn â’r materion hynny yng nghyd-destun cynllun Glastir.”

Bydd y Pwyllgor yn trafod yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 16 Medi 2014.