Cyhoeddwyd am hanner dydd heddiw fod sianel deledu leol Caerdydd, Made In Cardiff yn cael ei lansio ar 15 Hydref.

Cwmni Made Television fydd yn rhedeg y sianel ac fe fydd newyddion ar yr awr a rhaglenni gyda digwyddiadau a cherddoriaeth leol yn cael eu darlledu ar sianel 23 Freeview, Sky 134 a Virgin 159.

Y gobaith yw y bydd tua 80,000 o bobol o Ferthyr Tudful i Gasnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr yn medru gwylio’r sianel, yn ôl y rheolwr Bryn Roberts.

Ar gyfrif trydar Made In Cardiff, cyhoeddwyd:
“Fe fydd Made in Cardiff yn mynd yn fyw ar sianel 23 Freeview, Sky 134, Virgin 159 am 8pm ar 15 Hydref.”