Michael Sheen
Fe fydd yr actor Michael Sheen, sy’n wreiddiol o Gasnewydd, yn cyfarwyddo ac yn actio mewn cynhyrchiad o Under Milk Wood gan Dylan Thomas yn yr union theatr lle perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf yn 1953.

Fe fydd yn chwarae rhan y Llais Cyntaf, ac yn ymuno ag ef ar gyfer y perfformiad yn Efrog Newydd ar 26 Hydref fydd Kate Burton, merch Richard Burton, sef un o’r adroddwyr gwreiddiol.

Bydd y ‘ddrama i leisiau’ yn cael ei darlledu’n fyw ar BBC Radio Wales o theatr y 92Y yn Manhattan.

Mae’r perfformiad yn rhan o ddathliadau byd-eang i nodi 100 mlynedd ers geni’r bardd o Abertawe.

Ar hyn o bryd, mae Michael Sheen yn ymddangos yn y gyfres deledu Americanaidd ‘Masters of Sex’.

Dywedodd wrth y BBC: “Mae’n gyffrous iawn i fedru camu ar yr un llwyfan ac eistedd y tu ôl i le’n union roedd Dylan Thomas yn darllen y ddrama yn 1953, i fedru perfformio’r ddrama eto a rhoi bywyd newydd iddo.”