Mae Cyngor Sir Benfro wedi cyhoeddi y bydd pwll nofio cymunedol yn Arberth yn cau ar ddiwedd mis Hydref, yn dilyn pleidlais unfrydol gan gabinet y Cyngor.

Bu Cyfeillion Pwll Arberth yn brwydro i gadw’r pwll ar agor gyda’r bwriad o’i gynnal fel menter gymdeithasol, ond nid oedd modd gwneud hynny.

Pleidleisiodd y cabinet tros gau’r pwll er mwyn arbed arian.

Honnir y bydd yn arbed £126,000 y flwyddyn i’r cyngor.

Cafodd y pwll 20 medr ei adeiladu yn 1973 a dyma’r unig bwll sydd mewn adeilad ar ben ei hun yn y sir.