Y diweddar Gary Speed

Mewn rhaglen arbennig i’w darlledu ar S4C ddydd Mawrth nesa’, bydd mam cyn reolwr pêl droed Cymru, Gary Speed, yn esbonio pa mor falch oedd ei mab o’i Gymreictod.

Fe fu Carol Speed, sydd bellach yn byw yn Queensferry, Sir Fflint, yn siarad gyda Beti George am ei diweddar fab.

Mae’r rhaglen Pleidiol wyf i’m gwlad? yn edrych ar sut mae pobl yn y gogledd ddwyrain yn teimlo ynglyn â’u hunaniaeth.

Teulu

Roedd gan Gary, a fu farw’n yn ei gartref yn swydd Gaer yn 2011, deimladau gwahanol i’w deulu, meddai ei fam.

“Roedd o’n Gymro i’r carn – gan ystyried mai dim ond ychydig filltiroedd dros y ffin y ganwyd fo, a bod pawb arall yn ei deulu yn Saeson,” meddai Carol, sy’n briod â Roger, ac yn fam  hefyd i Lesley.

“Fo oedd yr unig Gymro yn y teulu, ac yn Gymro i’r carn!

“Roedd Gary’n credu’n gryf y dylai chwaraewyr Cymru ganu’r anthem.

“Dyna’r peth cyntaf wnaeth o pan gafodd o swydd Rheolwr Cymru. Dw i’n meddwl bod hynny’n bwysig iddo fo. Roedd o’n angerddol ’da chi’n gweld.”

Hunaniaeth

Mae’r rhaglen hefyd yn edrych ar sut mae pobl Queensferry yn teimlo am Gymru, a’u hunaniaeth.

Mae o’n bwnc amserol, o gofio i draean o boblogaeth Queensferry ddweud yng Nghyfrifiad 2011 eu bod yn ystyried eu hunain fel Saeson yn unig – yn hytrach na Chymry.