Mae person wedi ei gludo i’r ysbyty gan Ambiwlans Awyr yn dilyn dwy ddamwain ddifrifol ar yr A55 yn oriau man y bore ma.

Roedd rhaid cau lôn orllewinol yr A55, rhwng cyffordd 18 ac 19 sydd rhwng Glan Conwy a Chyffordd Llandudno, ar ôl gwrthdrawiad rhwng dwy lori am 02:45am ac yna gwrthdrawiad arall yn ymwneud â fan am 04:30am.

Cafodd un person ei dorri’n rhydd o’i gerbyd a’i gludo i’r ysbyty gan Ambiwlans Awyr.

Mae’r heddlu’n rhybuddio bod oedi hir yn debygol ar y ffordd ac mae’r traffig yn cael ei ddargyfeirio.
Nid yw’n glir pryd fydd y ffordd yn ail agor ar hyn o bryd.