Bryn Terfel
Bydd Bryn Terfel, Katherine Jenkins a Matthew Rhys ymysg llu o sêr sy’n croesawu’r Arlywydd Barack Obama i Gymru ar gyfer Uwchgynhadledd NATO.

Ynghyd â’r actorion Damian Lewis a Helen McCrory a’r athletwr Colin Jackson, maen nhw wedi recordio neges fideo er mwyn rhoi blas i Arlywydd gwlad fwyaf pwerus y byd am ddiwylliant, hanes a thirlun Cymru.

Barack Obama fydd yr Arlywydd Americanaidd cyfredol cyntaf i ymweld â Chymru pan fydd yn mynychu’r uwchgynhadledd.

Cynhyrchwyd y fideo gan Lywodraeth Cymru i Barack Obama cyn ei ymweliad ac mae’n un o nifer o weithgareddau gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru fel lleoliad ar gyfer busnes a thwristiaeth o amgylch Uwchgynhadledd NATO.

‘Cyfle unigryw’

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Bydd Uwchgynhadledd NATO yn gyfle unigryw i godi ymwybyddiaeth y byd o Gymru fel lle i ymweld ag e a lle i ddod â busnes. Er mai dim ond digwyddiad deuddydd yw’r Uwchgynhadledd, rydyn ni wedi bod yn gweithio i sefydlu partneriaethau newydd i Gymru a gweithgarwch sydd â gwerth hirdymor.

“Mae’r ymgyrch wedi canolbwyntio ar gryfderau Cymru fel gwlad fach sydd â llu o gysylltiadau masnach, a lle mae prifysgolion, diwydiant a busnes yn cydweithio’n agos. Rydyn ni eisiau rhoi croeso cynnes i bawb i’r uwchgynhadledd a’u bod yn gwybod am yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.”