Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o lofruddio yn sgil marwolaeth dyn a gafodd ei drywanu’r wythnos ddiwethaf.

Cafwyd hyd i Stephen Lambert, 35 oed, gydag anafiadau cyllyll mewn tŷ yn Twmbarlwm Close yn Rhisga ger Casnewydd ddydd Mercher.

Aed ag ef i Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd, lle bu farw’n ddiweddarach.

Meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent:

“Mae’r ddau ddyn, 28 a 33 oed, a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth Stephen Lambert, 35 oed, wedi cael eu cyhuddo o lofruddio.

“Fe fyddan nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd fore Llun (1 Medi 2014).”