Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn yn dilyn digwyddiad mewn tŷ yn Rhisga neithiwr.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i’r tŷ yng Nghlos Twmbarlwm yn y dref yn dilyn adroddiadau bod dyn 35 oed wedi cael ei drywanu.

Aed â’r dyn i Ysbyty Brenhinol Gwent, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r ddau ddyn yn y ddalfa.