Amlwch
Pan gychwynnodd hi yn 2006, gŵyl fechan undydd hefo pedwar band yn canu ar lwyfan ar gefn telar oedd Gŵyl Gopr Amlwch.

Ond eleni, mae disgwyl i tua 6,000 o bobol ddod i wylio 20 o artistiaid poblogaidd a newydd ar ddau lwyfan dros dair noson. Ac mae’r cwbwl lot am ddim.

Dibynnu ar noddwyr a charedigrwydd y trigolion lleol i gynnal yr ŵyl mae’r trefnwyr. Cwmni Horizon, fydd yn adeiladu atomfa niwclear Wylfa Newydd, a chwmni ynni morol Celtic Array yw’r prif gyfranwyr ariannol eleni. Ac mae rhai gwirfoddolwyr lleol wedi cymryd wythnos i ffwrdd o’r gwaith i helpu hefo’r paratoadau. Ond nid y ffaith ei bod hi am ddim yw’r unig beth sy’n gwneud y digwyddiad yn unigryw yn ôl un o’r trefnwyr.

“Yr amrywiaeth o gerddoriaeth sy’n ein gwneud ni’n wahanol,” meddai Jeff Palmer.

“Does gennym ni ddim genre. Mi fydd yna ganu gwlad ar y dydd Sadwrn, seren opera yn cloi’r sioe ar y nos Sul, bandiau Cymraeg a Saesneg a thân gwyllt i orffen.”

Llwyfan gwych

Yn ogystal ag enwau cyfarwydd fel Celt, Ywain Gwynedd, Y Moniars ac Elin Fflur, mi fydd un band sy’n gwbl newydd i’r sîn yn chwarae yn yr yr Ŵyl Gopr eleni.

Fe wnaeth Mr Annwyl – pedwar o ddisgyblion ysgol o Ynys Môn ddaeth at ei gilydd mis Hydref diwethaf ar gyfer cystadleuaeth Clwb Ffermwyr Ifanc – ryddhau eu EP cyntaf ar faes Sioe Môn ddydd Mercher diwethaf, a’r gig yn Amlwch fydd un o’u mwyaf hyd yn hyn.

“Mae’n rhoi llwyfan gwych i ni,” meddai prif leisydd y band, Gwion Jones sy’n ar fin mynd i flwyddyn 11 yn Ysgol Syr Thomas Jones.

“Mae’n un o ddigwyddiadau mwyaf yr ynys ac i gael ein cysidro i fod ddigon da a gweddill y bandiau sy’n chwarae, mae’n grêt.

“Dwi’n mynd i’r ŵyl bob blwyddyn, mae dad yn chwarae bâs i #Band6. Mae hi’n ŵyl lle mae pawb yn reit agos at ei gilydd erbyn y diwedd ac yn cael gymaint o hwyl. Ac mi fydd rhannu llwyfan hefo dad ‘leni yn od!”

Bydd yr ŵyl yn cychwyn heddiw a phara tan nos Sul.

www.gwylgopr.co.uk/