Yr Arglwydd Elis-Thomas a John G Hughes
Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi llongyfarch Is-Ganghellor Prifysgol Bangor am ennill gradd A mewn arholiad Cymraeg ail iaith.

Pedair blynedd ar ôl dechrau dysgu’r Gymraeg, mae’r Athro John G Hughes wedi llwyddo i gyrraedd y safon uchaf mewn arholiad ‘Defnyddio’r Gymraeg: Uwch’ – sydd gyfwerth â Lefel A i oedolion sy’n dysgu’r iaith yn ôl Prifysgol Bangor.

Daw John G Hughes yn wreiddiol o Ogledd Iwerddon ac fe gafodd ei benodi yn Is-Ganghellor Prifysgol Bangor yn 2010. Bryd hynny roedd yn addo dysgu iaith mwyafrif poblogaeth Gwynedd.

“Mae’r iaith Gymraeg yn rhan bwysig o ethos Prifysgol Bangor” meddai John G Hughes.

“Rwyf wedi mwynhau dysgu’r iaith yn fawr ac yn gobeithio y bydd fy mhrofiad yn anogaeth i ddysgwyr eraill.”

‘Gosod esiampl’

Mae John G Hughes yn esiampl i eraill mewn swyddi pwysig, yn ôl yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Canghellor y Brifysgol:

“Mae ei lwyddiant yn bleser mawr i mi, ac yn gosod esiampl i bobol eraill sy’n cael eu penodi i swyddi cyhoeddus yng Nghymru,” meddai.

Ychwanegodd Elwyn Hughes, Uwch Diwtor-Drefnydd a Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan  Cymraeg i Oedolion fod yr Is-Ganghellor wedi cyflawni camp o fewn amser byr:

“Y peth pwysig yn awr yw ei fod yn cael digon o gyfleoedd i ymarfer ei sgiliau, felly dylai siaradwyr Cymraeg gofio cyfathrebu gyda’r Is-ganghellor trwy gyfrwng y Gymraeg ar bob achlysur o hyn ymlaen.“