Llifogydd yn y Rhyl (PA)
Mae gwario ar amddiffynfeydd llifogydd wedi diogelu miloedd o gartrefi ac adeiladau, yn ôl adroddiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r corff amgylcheddol yn honni bod gwario £165 miliwn ar gynlluniau llifogydd a diogelu’r glannau wedi lleihau’r peryg i 6,500 o gartrefi ac adeiladau ers 2011.

Er hyn, mae 200,000 o adeiladau’n parhau i fod mewn peryg, gan gynnwys 21,000 sydd mewn categori risg uchel.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud bod gwella systemau rhagweld a rhybuddio yn golygu bod mwyn na 160 o ardaloedd ychwanegol yng Nghymru yn derbyn rhybuddion llifogydd am ddim.

‘Gwahaniaeth gwirioneddol’

Mae llifogydd difrifol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwetha’ wedi effeithio ar ardaloedd fel Sir Ddinbych a Cheredigion gan achosi difrod o tua £71 miliwn.

Yr amcangyfri’ yw bod gwerth y difrod i bob cartref ar gyfartaledd tua £40,000.

Yn ôl John Griffiths, y Gweinidog Adnoddau Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon, roedd yr ardoddiad yn dangos bod y gwario yn “gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r cymunedau hynny sydd mewn perygl.”