Mae dyn o Ferthyr Tudful wedi marw ar ôl cwympo ar reilings pigog o gwmpas ei gartre’.

Roedd Peter Davies, 67, wrthi’n torri brigau oddi ar goeden binwydd fawr yn ei ardd gefn yn ardal Twyn Carmel, pan ddigwyddodd y ddamwain.

Er iddo gael ei gludo i’r ysbyty gan yr ambiwlans awyr, fe fu farw o ganlyniad i golli gwaed, yn ôl datganiad gan Heddlu De Cymru.

“Rydyn ni’n ystyried marwolaeth Mr Davies fel damwain drasig,” meddai’r datganiad.