Meic Stevens fydd prif atyniad cyngerdd mawr Gŵyl Golwg ar nos Sadwrn 13 Medi eleni, a bydd lleoliad y gig yn dod ag atgofion melys i’r swynwr o Solfach.

Bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal yn Neuadd Fictoria, Llanbedr Pont Steffan, sy’n union gyferbyn â safle Cerrig yr Orsedd y dref, sef ble cafodd Meic Stevens ei urddo i’r Orsedd yn ystod Eisteddfod 1984 – union 30 mlynedd yn ôl.

Bydd Cyngerdd Gŵyl Golwg hefyd yn rhoi llwyfan i’r triawd gwerinol gwych o’r gogledd, Plu, ac yn rhoi cyfle arbennig i’r gantores ifanc leol dalentog Mari Mathias, sy’n ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Teifi,  i agor y noson.

Mae’r Cyngerdd i’w gynnal yn lleoliad adnabyddus Neuadd Fictoria wrth i’r ŵyl ymestyn i leoliadau yn nhref Llanbed, yn ogystal â’r prif leoliad ar gampws y brifysgol.

Bydd arlwy gerddorol yr ŵyl ym ymestyn i ddydd Sul 14 Medi hefyd gyda nifer o enwau amlwg yn perfformio yn Y Babell Roc ar gampws Prifysgol Llanbed.

Mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi enwau Lowri Evans, Gwilym Bowen Rhys a Blodau Gwylltion ers peth amser, ac ychwanegwyd enwau Gildas a Catrin Herbert yn fwy diweddar.

Ac i gloi holl arlwy amrywiol y penwythnos, bydd set arbennig gan y grŵp chwedlonol o Aberteifi, Ail Symudiad, fydd yn cloi arlwy Y Babell Roc.

“Er bod Gŵyl Golwg yn cynnwys llawer mwy na dim ond cerddoriaeth, rydan ni’n falch iawn o’r amrywiaeth gerddorol rydan ni’n cynnig eleni” meddai un o’r trefnwyr, Owain Schiavone.

“Tydi Meic heb berfformio yn Llanbed ers amser maith, felly roedden ni’n falch iawn o’i gael o i wneud y cyngerdd. Pryd nes i sôn am Lanbed, a Neuadd Fictoria y peth cyntaf ddywedodd Meic gan chwerthin oedd ei fod o wedi cael ei dderbyn i’r orsedd yn Llanbed, felly mae’n amlwg bod ganddo atgofion melys.”

“A hithau’n 30 mlynedd ers Steddfod Llanbed, mae’n teimlo’n briodol iawn fod Meic yn hedleinio’r cyngerdd – mae’r llun ohono yn ei wisg werdd bryd hynny’n reit eiconig, yn enwedig ar ôl cael ei ddefnyddio ar glawr ei hunangofiant ‘Mas o Ma’ yn ddiweddar. Rydan ni’n disgwyl i docynnau’r Cyngerdd werthu’n gyflym.”

Mae tocynnau’r Cyngerdd, a rhai cyffredinol yr ŵyl bellach ar werth o ar wefan.

Mae modd dilyn newyddion diweddaraf yr ŵyl ar y wefan www.gwylgolwg.com a thrwy ddilyn y cyfrif Twitter @GwylGolwg.