Arwyddion Cymraeg a Sbaeneg UEFA
Y Cymro Gareth Bale oedd un o sêr Real Madrid wrth i’r Sbaenwyr godi’r Super Cup yn Stadiwm Dinas Caerdydd neithiwr.

Wrth ddychwelyd i ddinas ei febyd, creodd Bale un o ddwy gôl Cristiano Ronaldo wrth i’w dîm guro’u cydwladwyr Sevilla o 2-0.

Bron flwyddyn union ers symud o Spurs i Real Madrid, mae Bale bellach yn rhan bwysig o linell ymosodol gwerth dros £200 miliwn.

Ond o’r asgell y gwnaeth ei farc neithiwr, gan groesi’r bêl i lwybr Ronaldo wedi hanner awr, ac fe rwydodd Ronaldo o’r postyn pellaf i roi ei dîm ar y blaen.

Rhwydodd Ronaldo unwaith eto ddechrau’r ail hanner wrth i Real Madrid ddechrau cynyddu’r pwysau, ac roedd y rheng flaen oedd yn cynnwys Bale, Karim Benzema a James Rodriguez yn rhy gryf i Sevilla.

Cafodd Bale nifer o gyfleoedd ei hun i rwydo ond fe fu’n rhaid iddo fodloni ar greu un ohonyn nhw wedi iddo fethu â manteisio ar wendid yn amddiffyn Sevilla.


Gareth Bale yn dathlu neithiwr
Wrth i’r dathliadau gychwyn, cymerodd Bale ran yn y prosesiwn o amgylch y cae, yn cario’r gwpan a baner Cymru am ei ganol.

Arwyddion dwyieithog

Ac roedd arwyddion dwyieithog Cymraeg a Sbaeneg o amgylch Stadiwm Dinas Caerdydd i groesawu Bale adref.

Fe gawson nhw eu gosod o amgylch y stadiwm gan UEFA, trefnwyr yr ornest, ac roedd Cymry ar Twitter yn barod i ganmol y corff rheoli am eu hymdrechion.

Dyma rai o’r sylwadau ar wefan trydar oedd yn canmol UEFA am ddefnyddio’r Gymraeg ar yr arwyddion:

Sarah M ‏@petit_morsel

Da iawn UEFA! Well nag unrhyw beth mae’r WRU wedi ei wneud o ran yr iaith!

Iago ‏@jammyjames60 1h

@petit_morsel @Penbedw Fel bod yn y Wladfa, da iawn @uefa.

Nest Gwilym‏@NestGwilym

Pwy sydd angen Saesneg?