Ymwelodd 143,502 o bobol ag Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr eleni – 10,000 yn llai na’r llynedd yn Ninbych ond ychydig yn fwy na’r nifer ddaeth i’r ddwy Eisteddfod ddiwethaf yn y de.

Y diwrnod prysuraf yn Llanelli oedd y Dydd Gwener, pan oedd 24,384 ar y Maes i weld teilyngdod yng nghystadleuaeth y Gadair a cherddoriaeth yn y nos gan Bryn Fôn a’r band.

Cafodd yr wythnos ei chloi ar y nos Sadwrn gan fand profiadol arall – Mynediad Am Ddim – a lwyddodd i oresgyn glaw a thoriad trydan i foddhau’r dorf.

‘Pinacl ar fisoedd o waith’

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn Sir Gâr, Gethin Thomas, wedi dweud bod yr ŵyl wedi bod yn hwb i’r Gymraeg yn lleol.

“Mae’r wythnos hon wedi bod yn bleser arbennig, yn binacl ar fisoedd lawer o waith a ddaeth â’r gymuned leol ynghyd,” meddai Gethin Thomas.

“Mae dros 450 o weithgareddau wedi’u trefnu yn enw’r Eisteddfod eleni, ac mae’r cyfan oll wedi bod yn hwb i’r Gymraeg, diwylliant Cymru ac i’r Gronfa Leol wrth gwrs.

“Hoffwn dalu teyrnged i staff yr Eisteddfod, y swyddogion, yr holl wirfoddolwyr trwy gydol y prosiect ac i bobl Sir Gâr a ddaeth yn eu miloedd yma i Barc Arfordirol y Mileniwm yr wythnos hon.  Diolch hefyd i Eisteddfodwyr selog o bob rhan o Gymru a thu hwnt a ddaeth atom yr wythnos hon.

“Mae’n drist ein bod yn tynnu tua’r terfyn ond rydym eisoes yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf ac yn dymuno pob llwyddiant i Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau.”

Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020?

Mae arweinydd Cyngor Ceredigion Ellen ap Gwynn wedi cadarnhau ei bod hi mewn trafodaethau â’r Eisteddfod i ddenu’r brifwyl i Geredigion.

Ni fu’r Eisteddfod Genedlaethol yn y sir er 1992, pan ymwelodd ag Aberystwyth, ond mae Ellen ap Gwynn wedi trydar ei bod hi mewn trafodaethau i ddenu’r ŵyl yn 2020.

Eisoes mae Cardis wedi bod yn dadlau o blaid eu tref nhw ar twitter, gyda rhai’n galw am iddi ddychwelyd i’w chartref cyntaf yn Aberteifi, a Phapur Bro Clonc yn naturiol yn pledio achos Llanbed.