Mae Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Rhodri Glyn Thomas, wedi defnyddio araith yn yr Eisteddfod Genedlaethol i alw am Fforwm i Gynllunio Iaith, er mwyn gwrthdroi’r cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg.
Yn ôl y cyn-Weinidog Diwylliant, byddai’r fforwm yn dadansoddi ac yn darparu arolwg o waith cynghorau sir i geisio cynyddu’r niferoedd sy’n siarad yr iaith, ac yn galluogi cyrff cyhoeddus i gyd-weithio a dysgu o arferion ei gilydd.
Daw galwad Rhodri Glyn Thomas o ganlyniad i ffigyrau “argyfyngus” Cyfrifiad 2011, ac mae’n dilyn cynhadledd a gynhaliwyd gyda busnesau a sefydliadau yn Sir Gaerfyrddin er mwyn clywed eu barn ar sut i gryfhau’r iaith a’r economi leol.
Mae’r alwad am sefydlu’r Fforwm yn cael ei chefnogi gan y Cynghorydd Cefin Campbell, Cadeirydd Gweithgor Iaith Gymraeg Cyngor Sir Gaerfyrddin, a ddywedodd y byddai’r cynllun yn “amddiffyn, hyrwyddo a datblygu defnydd yr iath yn eu cymunedau”.
‘Hanfodol’
Meddai Rhodri Glyn Thomas: “O wybod bod cymaint o fentrau wedi’u cychwyn yn ddiweddar i wrthdroi dirywiad yr iaith, mae’n hanfodol y caiff pob ymdrech ei harolygu’n fanwl, ei dadansoddi a derbyn cymaint o gefnogaeth ag sy’n bosib.
“Rwy’n gweld y Fforwm Cynllunio Iaith fel ffordd i uno cyrff cyhoeddus a darparu arolwg cyfannol o’r hyn sy’n digwydd, ac yn hanfodol yr hyn sydd angen cyflawni yn y dyfodol.”
Ychwanegodd y byddai’n rhaid cael cynllun gwahanol i bob ardal, gan na fyddai yr hyn sy’n gweithio yng Ngwynedd o reidrwydd yn gweithio yn Sir Ddinbych neu Wrecsam.
“Ond drwy gyd-weithio mi fydd cyrff cyhoeddus – awdurdodau lleol yn benodol – yn gallu rhannu’r arferion gorau a darparu mwy o gefnogaeth i’w gilydd.”