Ceri Cunnington ail o'r dde
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi colli ei ffordd drwy ruthro i foderneiddio a chanoli popeth ar y Maes a Maes B.

Dyna farn gadarn y bythol ddi-flewyn-ar-dafod Ceri Cunnington, oedd yn chwarae gig i Gymdeithas yr Iaith neithiwr yn y Kilkenny Cat ynghanol tref Llanelli gyda Brython Shag – y band mae wedi ffurfio gyda’i gyfaill oes o ddyddiau bendigedig Anweledig, Gai Toms.

Mae’r canwr yn bendant bod angen mynd â’r byd Cymraeg tu hwnt i ffiniau’r Maes a Maes B – llefydd na chafodd Ceri Cunnington wahoddiad i berfformio ynddyn nhw eleni, er bod ei fand Twmffat gyda Phil Lee ‘Gwibdaith Hen Frân’ ac eraill wedi hen sefydlu ei hun ar y Sîn.

Ychydig dros ddegawd yn ôl roedd ei gyn-fand Anweledig yn arfer hedleinio Maes B, gan ddenu miloedd i gyd-ganu ‘Eisteddfod, yn yr eisteddfod Yeah!’ .

Ond nid yw’r canwr yn chwerw – i’r gwrthwyneb, mae’r sefyllfa yn ei danio.

“Yr unig lefydd rydan ni’n cael cynnig chwarae rŵan ydy llefydd fel Merthyr, ac i fi mae hynny’n wych,” meddai canwr Twmffat a Brython Shag.

“Mae’n dangos ein bod ni’n gwneud rhywbeth yn iawn, achos ti’n chwarae pyb yn Merthyr.

“A ti’n mynd i toilet ar ôl y gig, a boi yn dweud: ‘That was brilliant. I didn’t understand a f****** word you said, but it was brilliant’.

“Ac mae hynny’n mynd yn ôl i be’ oedd y Steddfod yn arfer bod, pan oedda chdi’n chwarae mewn pyb yn Glyn Nedd [Eisteddfod 1994] – dim ar y Maes, i’r dosbarth canol Cymraeg, lle ti’n preaching to the converted, er bo nhw wedi eu convert-io yn hollol rong.”

E.P. newydd

Ar yr E.P. newydd, Tangnefedd, mae’r gân reggae ‘Diawl’ am y ‘cyfalafwr slei…yn arwain ni i’r gad o hyd’.

“Efo’r quest yma i fod yn llewyrchus ac yn llwyddiannus ac yn Gymry modern, rydan ni’n colli’r egwyddorion cymdeithasol yna oedd ganddon ni fel Cymry,” meddai Ceri Twmffat yn egluro sentiment y gân.

“Dw i’n deall bod eisiau symud ymlaen, ond peidio symud ymlaen ar speed…rydan ni’n colli’r hyder yma yn pwy ydan ni fel Cymry.

“Y crwsâd modern yma i fod yn economaidd lewyrchus…ella y bydd pethau’n well yn faterol, a mwy o arian a ballu. Ond rydan ni wedi colli rhywbeth craidd i pwy ydan ni.

“A dw i’n gweld y Steddfod yn symbol mawr o hynny erbyn hyn, ei ganoli fo.

“Mae hyn yn hen hen stori, ond tydi’r cymunedau yn cael ddim byd o le mae’r Steddfod.

“Mae o fel rhyw geto.”

Cyfweliad llawn yn Y Babell Roc yng nghylchgrawn Golwg.