Peter Capaldi
Mae miloedd o ffans Doctor Who wedi heidio i Gaerdydd o bob cwr o’r byd heddiw er mwyn gweld premier pennod gyntaf y gyfres newydd a pherfformiad cyntaf Peter Capaldi fel y Doctor.
Bydd y gyfres yn dechrau ar y BBC ddiwedd y mis ond mae’r bennod gyntaf wedi cael ei dangos yn Neuadd Dewi Sant yn y brifddinas heddiw cyn cael ei dangos eto gan y Sefydliad Ffilm Brydeinig yn Llundain yn ddiweddarach heno.
Bu Peter Capaldi a’i gyd actores, Jenna Louise Coleman, yn siarad gyda’r torfeydd oedd wedi casglu tu allan i’r neuadd cyn y dangosiad.
Cafodd y tocynnau eu bachu i gyd o fewn munudau ac mae pobl wedi dod i Gaerdydd o mor bell â Ffrainc, Japan a’r Unol Daleithiau er mwyn cael cyfle i weld y bennod.
Cyn y dangosiad, atgoffodd cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, y dorf i beidio a difetha’r bennod i eraill drwy ddatgelu beth sy’n digwydd ar wefannau rhyngweithio cymdeithasol.
Mae disgwyl i Frank Skinner, Samuel Anderson, Ben Miller a Keeley Hawes ymddangos yn y gyfres newydd.