Betsan Powys
Mae Dyfodol yr Iaith wedi croesawu datganiad Betsan Powys y gall  fod yn bosibl cael dwy sianel radio Gymraeg yn y dyfodol.

Roedd golygydd Radio Cymru yn siarad yn narlith Goffa Owen Edwards ddoe pan ddywedodd bod angen edrych ar y posibilrwydd o gael ail orsaf radio Gymraeg yn y blynyddoedd nesaf.

Ychwanegodd bod datblygiad y dechnoleg ddiweddaraf yn cynnig gobaith am ddwy sianel radio.

Mudiadau Iaith

Roedd y mudiad Dyfodol yr Iaith wedi cynnig y syniad am ddwy sianel ychydig fisoedd yn ôl.

Yn gynharach yr wythnos hon yn yr Eisteddfod, roedd Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi galw am drethu hysbysebion er mwyn sefydlu darlledwr Cymraeg newydd a fyddai’n gweithredu ar radio, teledu ac ar-lein.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol yr Iaith: “Fe wnaethon ni gyflwyno tystiolaeth i’r BBC yn galw am ddwy sianel – Radio Pawb a Radio Pop.  Y nod yw cael un sianel draddodiadol, ac un sianel i bobl ifanc.”

Anodd bodloni pawb

Ychwanegodd: “Rydyn ni wrth ein bodd bod rhai o raglenni newydd Radio Cymru’n boblogaidd, ac mae Tomo’n amlwg wedi gwneud ei farc yn sydyn iawn a rhifau gwrando Radio Cymru’n codi.

“Yr hyn sy’n anodd ar hyn o bryd yw bodloni pob math o gynulleidfa yr un pryd.  Yn y Saesneg mae modd dewis o blith nifer fawr o sianeli, a bydd yn wych i wrandawyr Cymraeg gael siawns i ddewis y sianel sy’n apelio fwya iddyn nhw.

“Mae’n dda deall y bydd datblygiadau technegol yn ei gwneud yn bosibl cael dwy sianel Gymraeg, naill ai o dan ofal y BBC neu o dan ofal darlledwyr annibynnol.”

Dywedodd Betsan Powys ei bod hi’n meddwl y byddai her o gystadleuaeth ail orsaf yn dda i Radio Cymru hefyd.