Carwyn Jones
Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones heddiw yn cyhoeddi £1.25 miliwn i ddatblygu canolfannau ac ardaloedd dysgu er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

Bydd Carwyn Jones yn gwneud ei gyhoeddiad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ac mae’n rhan o bolisi terfynol Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg, ‘Bwrw ‘Mlaen’.

Bydd y £1.25 miliwn yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol, colegau a phrifysgolion er mwyn ddatblygu canolfannau iaith i bobl allu dysgu Cymraeg neu ymarfer yr iaith.

Y gobaith yw y bydd y canolfannau yn dod yn ganolbwynt i’r iaith yn lleol. Dywed y Llywodraeth bod yr arian yn ychwanegol at yr £1.6 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Mehefin dros y ddwy flynedd nesaf i gryfhau’r cysylltiad rhwng y Gymraeg a’r economi a hybu’r iaith yn y gymuned.

Bydd yr arian yna’n mynd tuag at ddatblygu prosiect peilot i wella’r ffordd y mae busnesau yn darparu gwasanaethau drwy’r Gymraeg yn Nyffryn Teifi a datblygu gwaith y Mentrau Iaith.

Dywedodd Carwyn Jones ei fod “wrth ei fodd” yn gallu rhoi’r arian er gwaetha’r “hinsawdd ariannol” anodd.

‘Amser tyngedfennol i’r Gymraeg’

Meddai’r Prif Weinidog: “Bydd yr ardaloedd iaith deinamig hyn yn golygu bod pobl yn gallu dod i gysylltiad â’r iaith ac fe fyddan nhw hefyd yn gweithredu fel hybiau cymunedol.

Bydd yna bwyslais cryf ar gydweithio rhwng partneriaid er lles y gymuned ehangach. Fe fydd y cyllid yn cyfrannu at lawer o brif amcanion ‘Bwrw ‘Mlaen’, gan gynnwys hyrwyddo’r iaith ar lawr gwlad.

“Mae creu cyfleoedd i bobl siarad Cymraeg a rhoi’r hyder iddyn nhw wneud hynny yn ymrwymiadau allweddol yn natganiad heddiw. Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n amser tyngedfennol i’r Gymraeg ac y bydd y degawd nesaf yn dangos p’un a ydyn ni wedi llwyddo i’w chryfhau ai peidio.

“Yma yn y Llywodraeth, rydyn ni am wneud ein rhan yn yr her ac mae ‘Bwrw ‘Mlaen’ yn amlinellu ffocws ein gwaith dros y tair blynedd hollbwysig nesaf. Rydyn ni’n disgwyl i’n partneriaid ledled y wlad wneud yr un peth. Mae angen ymrwymiad, dychymyg ac egni gan bawb.”

‘Pwysig gweld y darlun ehangach’

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gofyn am sicrwydd y bydd y Llywodraeth yn cynyddu’r ganran o’i chyllideb sy’n cael ei gwario ar hyrwyddo’r Gymraeg, yn dilyn ei chyhoeddiad am gynlluniau i agor canolfannau iaith.

Ym maniffesto byw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, galwodd y mudiad ar y Llywodraeth i bedryblu’r buddsoddiad ar hyrwyddo’r Gymraeg er mwyn cyrraedd lefelau Gwlad y Basg.

Meddai Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Er ein bod ni’n croesawu’r canolfannau newydd, credwn ei fod yn bwysig gweld y darlun ehangach. Mae’r rhan helaeth o wariant Llywodraeth Cymru yn fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyfrwng Saesneg yn yr iaith Saesneg.

“Wythnosau’n unig wedi cyhoeddiad diwethaf Carwyn Jones, daeth i’r amlwg bod toriadau i ddysgu Cymraeg i Oedolion. Buddsoddiad pitw sydd ar hyrwyddo’r Gymraeg – tua 0.15% o holl gyllideb y Llywodraeth. Rhaid gofyn: a ydy’r pres yma’n ddigon i gynyddu gwariant y Llywodraeth ar y gwaith hollbwysig o hybu’r Gymraeg?

“Mae angen i Carwyn Jones symud o’r pethau bychain i’r pethau mawrion – fel sicrhau bydd holl blant Cymru’n dod yn rhugl yn y Gymraeg trwy’r system addysg, a chreu system gynllunio sy’n gweithio er budd ein cymunedau.”

‘Ffocws newydd’

Mae Dyfodol i’r Iaith yn llongyfarch y Llywodraeth am roi arian i sefydlu rhagor o Ganolfannau Cymraeg.

Mae’r mudiad yn dweud bod tua 200 o ganolfannau iaith yng Ngwlad y Basg sydd wedi profi’n llwyddiannus.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith bod angen y canolfannau “er mwyn rhoi ffocws newydd i fywyd Cymraeg mewn ardaloedd sydd yn colli’r iaith.”

Meddai Heini Gruffudd: “Mae rhai Canolfannau Cymraeg llwyddiannus yn barod, er enghraifft Tŷ Tawe Abertawe a Chanolfan Merthyr.  Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld cadwyn o Ganolfannau Cymraeg llwyddiannus.”

“Fe wnaeth Prifysgol Abertawe ymchwil i gyfraniad Canolfannau Cymraeg i brofiad rhai sy’n dysgu’r Gymraeg, ac roedd y canlyniadau’n gadarnhaol dros ben.”

‘Ymrwymiad llugoer’

Dywedodd Aled Roberts, Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros ogledd Cymru nad yw ychydig dros filiwn yn llawer iawn o arian a’i fod yn pryderu y bydd yr arian yn cael ei daenu’n rhy denau.

Meddai: “Hyd yn hyn, mae ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i’r iaith wedi bod yn llugoer, a dweud y lleiaf, ac mae’n bwysig bod y buddsoddiad hwn yn cael effaith fawr.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar ffyrdd i gefnogi pobl fel y gallant gynnal eu bywydau bob dydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod o amrywiaeth a hunaniaeth ddiwylliannol Cymru. Mae angen i ni sicrhau bod unrhyw un sydd am siarad yr iaith yn cael yr anogaeth, yr hyder a’r cyfle i wneud hynny.”